Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 12 Chwefror 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00-12:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman (Cadeirydd) Leighton Andrews Peter Black Jocelyn Davies Janet Finch-Saunders Mike Hedges Mark Isherwood Gwyn R Price Jenny Rathbone |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Peter Gomer, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Richard Hughes, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Carol Edwards, CILIP Mandy Powell, CILIP Jane Sellwood, Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Sarah Beasley (Clerc) Leanne Hatcher (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhodri Glyn Thomas.
2 Ymchwiliad i Lyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru. Sesiwn Dystiolaeth 1 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
2.2 Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu:
· ystadegau ynghylch y defnydd o wasanaethau llyfrgell digidol a dadansoddiad o oedran defnyddwyr;
· gwybodaeth am y rhaglen Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli, o ran y defnydd o lyfrgelloedd prifysgolion a sut y gellir gwella mynediad.
Gofynnodd y Pwyllgor am ddogfen friffio cyfreithiol ynghylch statws y canllawiau (Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru) a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964 (hynny yw, ai canllawiau statudol neu wirfoddol yw'r rhain).
3 Ymchwiliad i Lyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru. Sesiwn Dystiolaeth 2 - Sefydliad Siartredig Gweithwyr Proffesiynol Llyfrgell a Gwybodaeth
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Sefydliad Siartredig Gweithwyr Proffesiynol Llyfrgell a Gwybodaeth.
Cytunodd y Sefydliad i ddarparu gwybodaeth am:
· niferoedd defnyddwyr/ymwelwyr llyfrgelloedd ym mhob awdurdod lleol;
· Deddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964 a'i darpariaethau;
· pa un a oedd modd defnyddio'r System Rheoli Llyfrgelloedd dros y ffin.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 5
5 Y Bil Tai (Cymru): Trafod y materion allweddol
5.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol.
6 Papurau i’w nodi